Yma yn Agritrader, rydym am glywed safbwyntiau o bob math o gefndiroedd yn y byd ffermio. Rydym yn gyffrous i groesawu wyneb newydd i’n tîm ysgrifennu, Hanna Lewis. Y mis hwn mae’n cyflwyno’i hun ac yn dweud wrthym am ei chefndir o fewn y diwydiant ffermio.
My name is Hanna Lewis, although most know me as Hanna Eiddon, my middle name, which comes from the name of our farm, Bacheiddon. I was born and raised on the farm near Machynlleth, Bro Ddyfi. Since I was a young girl, I’ve always had an interest in agriculture, in particular the political and corporate side of it. My father and brother work full-time on the farm – farming some 60 suckler Cows, around 700 Welsh Speckled Face ewes and 300 Texel Cross ewes. My mother runs a successful catering company, Bwyd Bethan, which prides itself on using local, Welsh produce. On weekends the whole family can be found helping Mam in weddings and large events such as the Royal Welsh Show in Builth Wells. As a family, diversifying from Agriculture into Catering, and recently entering the world of holiday letting has been a crucial resource for us to continue farming under the growing pressures of the Agricultural industry. In 2018 we renovated Bryndan cottage, which was our first holiday letting venture as a family. Since then, we decided to expand, building two luxury Log Cabins, Bacheiddon Cabin and Bryneiddon Cabin.
Fy enw i yw Hanna Lewis. Mae rhan fwyaf o bobl yn fy nabod i fel Hanna Eiddon, fy enw canol sydd wedi dod o enw ein ffarm, Bacheiddon. Cefais fy ngeni a’n magu ar y ffarm sydd yn ardal Machynlleth ym Mro Ddyfi. Ers bod yn ifanc rydw i wastad wedi cael diddordeb mawr mewn amaethyddiaeth, yn enwedig yn yr ochr wleidyddol a chorfforaethol ohono. Mae fy nhad a fy mrawd yn gweithio ar y ffarm llawn amser – yn ffermio tua 60 o wartheg magu, tua 700 o ddefaid Penfrith Cymreig a 300 o ddefaid Texel Croes. Mae Mam yn rhedeg busnes arlwyo llwyddiannus, Bwyd Bethan, sy’n defnyddio cynnyrch lleol a Chymraeg. Ar benwythnosau gallwch ddod o hyd i’r teulu cyfan yn helpu Mam mewn priodasau ar hyd a lled Cymru, a digwyddiadau mawr megis y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Fel teulu roedd arallgyfeirio i arlwyo ac yn ddiweddar treiddio i fyd tai gwyliau yn adnodd allweddol er mwyn parhau i ffermio dan bwysau cynyddol y diwydiant amaethyddol. Yn 2018 cafodd ein bwthyn, Bryndan, ein menter tai gwyliau cyntaf ei adnewyddu. Ers hyn rydym wedi ehangu drwy adeiladu dau gaban pren moethus; Caban pren Bacheiddon a Chaban pren Bryneiddon.
I was a pupil in the primary school in Glantwymyn before going on to do my GCSEs and A-Levels in Ysgol bro Hyddgen in Machynlleth. I’ve always enjoyed working with children and young people so gaining a lifesaving qualification, along with a Level 2 teaching qualification in swimming, allowed me to continue with this interest whilst also working when I was still in school. During my school years I was also an active member of my local YFC, Bro Ddyfi where I gained unforgettable opportunities and experiences, such as being part of the public speaking finals in Llanelwedd, stock-judging and recently travelling to South Africa on a safari trip with members of Young Farmers clubs from all over Wales. I’ve also been an active member of the Urdd, taking part in many Eisteddfod and sports activities, and was one of 24 pupils chosen to volunteer in Patagonia for a fortnight in 2018.
Roeddwn yn ddisgybl yn yr ysgol gynradd leol yng Nglantwymyn, cyn symud ymlaen i wneud TGAU a Lefel A yn Ysgol Uwchradd Bro Hyddgen ym Machynlleth. Rydw i wastad wedi mwynhau gweithio gyda phlant a phobl ifanc felly roedd ennill cymhwyster achub bywyd ac athrawes nofio Lefel 2 yn galluogi i mi barhau gyda’r diddordeb yma a gweithio tra fy mod dal yn yr ysgol. Drwy’r cyfnod yma roeddwn hefyd yn aelod brwd o fy nghlwb Ffermwyr Ifanc lleol, CFfI Bro Ddyfi. Ces i gyfleodd bythgofiadwy yno, gan gynnwys bod yn rhan o griw siarad cyhoeddus rownd derfynol yn Llanelwedd, barnu stoc ac yn ddiweddar, teithio i Dde Affrica ar drip saffari gydag aelodau o glybiau Ffermwyr Ifanc o bob rhan o Gymru. Dros y blynyddoedd rydw i hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’r Urdd megis eisteddfodau a chwaraeon, a chael fy newis fel un o’r 24 disgybl i wirfoddoli ym Mhatagonia am bythefnos yn 2018.
After finishing my A Levels, I went on to Aberystwyth University to study History and International Politics and I truly had the best three years of my life there, being a keen member of the Welsh Student Society and the Welsh Sports Society; The Geltaidd. My interest in public speaking continued too and I was lucky enough be part of the contingent who travelled to Norway to deliver the Urdd Peace and Goodwill Message 2021. I had the opportunity to discuss the subject with Mark Drakeford and express my opinion that the climate problem is too easily blamed on the farmers in Wales.
Es ymlaen ar ôl ysgol i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle ces i wir y dair blynedd gorau o’m mywyd fel aelod brwd o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth ac Undeb Chwaraeon Cymraeg; Y Geltaidd. Parhaodd fy niddordeb mewn teithio a siarad cyhoeddus yn fy nghyfnod yn y brifysgol, ac roeddwn yn ffodus i gael fy nerbyn fel un o griw Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn 2021 lle aethon i’r Ganolfan Heddwch Nobel yn Norwy. Ces i’r cyfle i drafod y pwnc gyda Mark Drakeford a hefyd lleisio fy marn ar sut fod y broblem hinsawdd yn cael ei feio yn rhy hawdd ar amaethwyr yng Nghymru.
After graduating I took my first job in Aberystwyth University as a Student Recruitment Officer for Wales with a specific focus on recruiting Welsh language students. As part of my job on a day-to-day basis I work with an amazing team of staff and get to pursue my passion of helping young people whilst encouraging more people to go to university. My love of agriculture, along with a passion for getting more people from rural Wales to consider University, persists. I now look forwards to continue working closely with the University farms and the agricultural department to strengthen the University’s strategy with recruiting agricultural students, especially students from Wales.
Ar ôl i mi raddio roeddwn eto’n ffodus iawn o dderbyn fy swydd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth fel Swyddog Denu Myfyrwyr Cymru gyda ffocws ar ddenu myfyrwyr Cymraeg. Fel rhan o’r swydd o ddydd i ddydd rydw i’n cael gweithio gyda thîm anhygoel o staff a hefyd yn cael parhau gyda fy angerdd o helpu bobl ifanc a cheisio hybu fwy o bobl i fynd i’r Brifysgol. Mae fy angerdd am amaethyddiaeth a chael fwy o bobl o gefn gwlad Cymru i’r brifysgol. Rydw i’n edrych ymlaen i barhau i weithio’n agos gyda ffermydd y Brifysgol a’r adran amaethyddiaeth er mwyn cryfhau strategaeth y brifysgol gyda denu myfyrwyr amaethyddiaeth, yn enwedig myfyrwyr o Gymru.